Mae siart llinell neu 'graff llinell' yn fath o siart sy'n dangos gwybodaeth fel cyfres o bwyntiau data o'r enw 'marcwyr', sy'n cysylltu segmentau neu rannau o linell.
Dyma'r math symlaf a mwyaf sylfaenol o'r holl siartiau a geir, ac fe'i defnyddir mewn sawl maes. Defnyddir siart llinell yn aml i weld tueddiad mewn data dros gyfnod o amser - a elwir yn 'gyfres amser' - felly mae'r linell yn aml yn cael ei thynnu'n gronolegol. Yn yr achosion hyn fe'u gelwir yn "siartiau rhedeg".[1][2]
Credir mai Francis Hauksbee (1660–1713), Nicolaus Samuel Cruquius (1678–1754), Johann Heinrich Lambert (1728–1777) a William Playfair (1759–1823) a ddefnyddiodd y siart llinell gyntaf.[3]